Uncertainty… Ansicrwydd

How do you deal with uncertainty?

Credaf erbyn hyn bod ansicrwydd wedi bod yn rhan helaeth o fy mywyd. Mewn ffordd reit rhyfadd, sicrwydd hefyd.

Ond fel ansicrwydd, mae profiadau bywyd wedi gwneud y sicrwydd mwy ansicr.

Tydi bywyd ddim wedi bod yn ffeind iawn i fi, ond mae o wedi bod mor ffeind hefyd. 

Felly nol at y cwestiwn…. sud dwi delio a ansicrwydd wel gyda pen fyny sgwydda nol a anadl ddofn, achos dim ots be ddaw erbyn hyn, gwn y medrai delio a unrhyw beth a dyna ma ansicrwydd yn gwneud i rhywun. Dysgu sgiliau bywyd…un cam ar y tro, un troed o flaen y llall, un profiad ar ol llall. Dim difaru, dim cwestiynu, just ffydd…..

Gadael sylw