Yn ddiweddar mi es i, i le tywyll iawn, doedd dim penodol, ond bob dim di dod yn ormod.
Sylwais reit sydyn bod angen help arnai. On be oedd yr help oni isho, dwim yn siwr.
Buan iawn sylwais er mod i angen help, doedd gen i ddim yr amser i rhoid i neb oedd yn trio fy helpua!
Teimlais fwy o bwysa yn sydyn ofnadwy, roedd pawb isho tamaid ohonaf fel petau.
Yna cofiais y pwysigrwydd o dderbyn, derbyn sefyllfa, argaeledd, yr cymorth oedd ar gael a mwy.
Cofiais hefyd nid oedd rhaid i fi wneud bob dim ar unwaith. Felly eisteddais yn ol gwneud rhestr o bob dim oedd yn cael ei gynnig.
Derbyniais nad oedd posib i bob dim ddigwydd ar unwaith, es ati i feddwl be oedd yn bosib efo’r amser oedd genai.
A dyma ddechrau ar siwrne arall i ddod yn well unwaith eto.
Diolch i bawb sydd yn fy nghefnogi🥰