Bodlon….

Mae’r gair yma wedi dod i’m meddwl lot yn ddiweddar.

Bodlon means content, satisfied, happy, or fulfilled. The word has been on my mind a lot lately.

Pam? Wel am fy mod wedi cyrraedd pwynt yn bywyd, lle dwin stopio y ‘rat race’ a sylweddoli be sydd yn bwysig.

Yn dod o deulu lle nad oedd gennym llawar, roedd yn bwysig i mi weithio’n galed.

Fel oedd Dad yn deud ‘does dim byd i gael am ddim’. Rhaid gwithio galad i gael be da ni isho yn bywyd.

Ond be yn union da ni isho. Dwin berson reit syml o ran be dwi isho. To uwch fy mhen, bwyd yn ein bolia a dillad, ond mwyaf oll iechyd.

Dwin gweld pobol yn ddyddiol mewn ras i’r top, ond i ble ac i be? Be fydd wedyn iddynt? Be os mai yn y top breuddwyd rhywun arall ydio, ac ar ol yr holl waith caled ni ydynt bodlon am mai pobol eraill oedd yn eu gwthio, neu dilyn breuddwydion eu rhieni neu rhywun arall oeddant.

Weithiau mae isho isda yn ol a gweld be sydd yn wir gneud ni yn hapus. Be ydi ein gwir dyheuiadau, dim rhai pobol eraill, na be da ni wedi cael ein dysgu sydd yn common rule yn bywyd.

Rhaid i ti fynd i coleg…..pam? Oes rhaid?

Rhaid i chdi gael cariad, priodi a chael plant…….pam?

Tydi ‘one rule suits all’ rioed di bod yn wir, neu mi fysai yn fywyd reit rhyfadd.

Tydi syniad pawb o lwyddiant ddim yn edrych run fath, a ma hyny yn beth da.

Gwn fy mod wedi llwyddo mewn bywyd, am bod gen i deulu bach hapus, llwyth o gariad o’ ngwmpas, to uwch fy mhen, a bwyd yn y fridge.

Dyma be oni isho erioed, a dwi wir yn ddiolchgar am be sydd gen i heddiw ❤️💯 

Gadael sylw