Bywyd reit rhyfadd!

Tydi bywyd yn peth rhyfadd. Dwin teimlo mod i mewn ras, ond ras i ble?

Dros y blynyddoedd dwi di dysgu be sydd yn fy ngwneud yn hapus, petha reit syml rili. Teulu, adra a gwaith.

Ia gwaith! Pam …glywai chi’n deud. Wel ma gwithio yn rhoi sialens i fi, tynnu fy meddwl, cadw fi yn brysur….sydd union be dwi angen i gadw oddi wrth yr hunllefa sydd yn fy meddwl withia, ond hefyd yn nadu i mi or feddwl.

Hefyd ma gwaith yn rhan ohonai cyn dy golli di. Dwi di bod yn weithgar erioed a doedd dim yn gallu fy stopio.  Dwi meddwl bod cael gwithio fel dwi di neud erioed a wan yn ol yn y maes arlwyo yn gadael rhan bach ohonai fod y Delyth dwi di bod erioed

Dwi ddim wedi medru mynd yn ol i’r Delyth oeddwn i cyn dy golli, fydd hyny byth yn bosib,  oherwydd y diwrnod yna gollais fy hun hefyd. Ond mae bod yn gwaith, yn ganol pobol, yn gwneud fy ngora yn rhoi teimlad cynnes i mi.

Ond dal tu ol i’r clawr ma na lyfr enfawr sydd heb ei ddarllen ❤️💔

Gadael sylw