Dymuniad

Doeddwn byth yn un am ofyn na dymuno. Doeddwn ddim yn coelio mewn ffashiwn beth. Ond yn y 24 mlynedd diwethaf dwin neud dim byd ond gofyn a dymuno am un peth na chai byth.

Heddiw, dwi di bod i neud dy fedd yn ddel, rhosod neis a ogla hyfryd. Rhoish i gusan i dy gareg.

Fory mi wnai fwynhau y Nadolig, ond fydd yr hen deimlad na yna eto, y teimlad bod wbath at goll.

A mi wnai unwaith eto gofyn a dymuno am chdi.

Nadolig Llawen fy mabi gwyn i💙

#meddwl #galar #gwacter #colled

Gadael sylw