Ysgrifennu yn y Gymraeg

Mi oeddwn wir yn meddwl fy mod yn sgwennu a neb yn eu darllen.

Wedi digwyddiad diweddar a sgwrs am bwysigrwydd ffindio cymorth yn dy mamiaith, Wel dyma fi yn rhoi tro arni!

Dwi teimlo dwi angen rhoi ‘disclaimer’ cyn dechrau, achos tydi fy nghymraeg i ddim yn berffaith felly maddeuwch i mi.

Heddiw aeth y goeden Nadolig i fyny yn ein ty ni. A unwaith eto roedd gen i hen deimlad hull yn fy stumog yn gwybod mod i yn gwynebu Dolig arall heb Owain Glyn neu O.G. fel oedd ni yn ei alw. 24 mlynedd erbyn rwan a dal mor anodd.

Mae yr angel fach gwydr, y seren fach a Tigger ar y goedon bob blwyddyn i gofio amdano. Ond bob blwyddyn er mod i mor lwcus o cael pawb ogwmpas y bwrdd a teulu i wario amser efo mae’r twll tywyllwch na dal yno dros yr wyl.

Erbyn hyn dwi di derbyn yr hen dwll tywyll na, oherwydd nad oes ffordd i’w wella. Yn hytrach dwi yn ei dderbyn ac yn mynd a fo efo fi ar siwrne bywyd!

Gadael sylw